Dewiswch eich iaith

MALLTRAETH YMLAEN Cyf

CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

7 pm 24 Tachwedd 2021 – Neuadd PJH, Niwbwrch.

 

Yr oedd tri deg dau o aelodau yn bresenol. Roedd cworwm yn y cyfarfod.

Cafwyd ymddiheuriadau gan: Christine Garbutt, Margaret Edwards, Heather Blake, Jan Munsche, Karen a Steve Blakey, Neil Moir, Mary Aris, Jude Pike, Philip Snow, James & Maxine Aust, Hilary Cooke, Sally Sykes.

Croesawodd Henri Hughes yr aelodau, diolchodd i SyM Bodorgan am ddarparu lluniaeth, ac eglurodd y drefn Diogelwch Tân.

Rhoddodd Capell Aris Adroddiad Blynyddol 2019-20 a 2020-21. Diolchodd HH i CA am ei adroddiad.

Ethol Swyddogion.

Mae aelodau'r Pwyllgor Rheoli yn gwasanaethu am gyfnod o dair blynedd. Roedd Capell Aris wedi gwasanaethu yn y swydd hon am dair blynedd a cheisiodd gael ei ailethol. Yr oedd pawb oedd yn bresenol o blaid

Y saith aelod o MY a lenwodd swyddi gweigion achlysurol y Cyfarwyddwyr a ymddiswyddodd ar 18 Tachwedd 2020 oedd: Jude Williams, Pat Dobbie, Maxine Aust, Barbara Jones, Helen Jenner, Jan Robertshaw, a Ray Robertshaw. Gofynnwyd i'r aelodau oedd yn bresennol gadarnhau eu swyddi fel cyfarwyddwyr Malltraeth Ymlaen ac eithrio Maxine Aust sydd wedi ymddiswyddo oherwydd materion iechyd. Yr oedd pawb oedd yn bresenol o blaid.

Gofynnwyd i'r cyfarfod gadarnhau penodiad Pat Dobbie yn Ysgrifennydd y Cwmni. Yr oedd pawb oedd yn bresenol o blaid.

Yn wyneb ymddiswyddiad Maxine Aust, gofynnwyd i’r aelodau am enwebiadau ar gyfer Trysorydd y Cwmni. Nid oedd unrhyw enwebiadau.

Derbyniwyd enwebiad ar gyfer Ray Robertshaw fel Cadeirydd gan Pat Dobbie, eiliwyd gan Peter Garbutt. Etholwyd Ray Robertshaw i'r swydd hon.

Daeth Ray Robertshaw i’r Gadair, a diolchodd i Henri Hughes, Peter Garbutt a Capell Aris am eu gwaith. Pwysleisiodd bwysigrwydd y gymuned - a ddylai fod yn gweithio er lles pawb.

Daeth hyn â busnes ffurfiol y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i ben – lluniaeth yn cael ei weini gan aelodau SyM Bodorgan.